David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

31 Gorffennaf 2015

Annwyl Gadeirydd

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Cod Ymarfer ar Eiriolaeth

Gan ystyried argymhellion y Pwyllgor ar ôl craffu ar Reoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwysedd) (Cymru) 2015, roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol amlinellu'r prif bwyntiau rwyf wedi'u codi wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer ar Eiriolaeth, fel rhan o'm swyddogaeth statudol i adolygu a yw'r gyfraith sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru yn ddigonol ac yn effeithiol.

1.    Mae'r Ddeddf yn rhoi ymrwymiad penodol i alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a rheoli eu bywyd eu hunain, ac i roi help i sicrhau bod llais pobl yn gryf, yn glir, yn cael ei glywed ac yn cael sylw priodol.  Bydd eiriolaeth annibynnol yn hanfodol i bobl sy'n ei chael yn anodd gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed.  Mae eiriolaeth annibynnol yn allweddol i lwyddiant y ddeddfwriaeth newydd hon. Mae'n ymrwymiad pwysig ac mae'n rhaid iddo gael ei gynnwys yn holl reoliadau a chodau ymarfer y Ddeddf.   Nid wyf yn fodlon eto fod hyn wedi'i wireddu'n llwyr.   

2.    Mae'n rhaid sicrhau bod dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau yn sail i'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.  Er bod llawer o rethreg ynglŷn â dyletswydd unigolion i gydlunio eu hatebion eu hunain i sicrhau eu canlyniadau o ran lles, nid yw'r hawl i eiriolaeth annibynnol yn cael yr un sylw.   Bydd cydlunio go iawn yn digwydd pan mae pawb ar yr un lefel, felly rwy'n bryderus ynglŷn â'r ffaith bod y Cod Ymarfer ar Eiriolaeth, ar hyn o bryd, yn cynnig prawf sy'n dibynnu ar benderfyniad y gweithiwr proffesiynol ac sy'n rhoi cydlunio yn y fantol.  Mae angen newid patrwm er mwyn gweddnewid gwasanaethau cymdeithasol go iawn, a bydd hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r anghydbwysedd presennol mewn pŵer a allai atal y rheini sydd angen mynediad at eiriolaeth annibynnol rhag cael hynny.   Er fy mod yn deall bod awdurdodau lleol yn wynebu cyfyngiadau ariannol, mae defnydd da o wasanaethau eiriolaeth annibynnol yn dda i unigolion, yn dda ar gyfer diogelu ac yn dda i'r pwrs cyhoeddus. 

3.    Bydd newid diwylliantawdurdodau lleol yn hanfodol er mwyn rhoi bwriad y Ddeddf ar waith, ac mae gofyn bod gan y rheini sy'n cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf ymwybyddiaeth dda o'r hawl i eiriolaeth annibynnol.   Dylid edrych ar eiriolaeth annibynnol nid yn unig fel ffordd allweddol o wireddu dyheadau'r Ddeddf o ran llais a rheolaeth, ond hefyd fel rhywbeth hanfodol a hollbwysig wrth sicrhau gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac o safon.  Fodd bynnag, nid yw'r angen i newid diwylliant mewn awdurdodau lleol wedi'i gynnwys yn y Cod Ymarfer ar Eiriolaeth a'r rhannau cysylltiedig ar hyn o bryd.  Mae'n rhaid i staff awdurdodau lleol edrych yn gadarnhaol ar eiriolaeth annibynnol er mwyn iddo gael ei wreiddio mewn ymarfer o ddydd i ddydd.  Felly bydd gweld sut bydd hyn yn cael sylw o ddiddordeb i mi.

Er fy mod yn siomedig nad yw fy argymhellion yn yr adroddiad ‘Achos Busnes dros Eiriolaeth yng Nghymru’[1] wedi cael eu datblygu, rwyf wedi ymrwymo o hyd i wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wasanaethau eiriolaeth effeithiol, gan gynnwys eiriolaeth annibynnol, pan fydd angen[2].  I bob golwg, nid yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Mesur Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig unrhyw ddangosyddion a fydd yn cofnodi lefel y mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Rwyf wedi nodi bod hyn yn bryder, a byddaf yn cadw golwg ar y mater wrth i'r Ddeddf gael ei rhoi ar waith. 

Yn gywir

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru



[1]  Achos Busnes dros Eiriolaeth, Mai 2014, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[2] Blaenoriaeth pump: Mynd i’r afael â rhagfarn, anghydraddoldeb a gwahaniaethu, Fframwaith Gweithredu

 2013-17, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru